Am HET
Cafodd Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost (HET) ei sefydlu ym 1988. Ein nod yw addysgu pobl ifanc o bob cefndir am yr Holocost a'r gwersi pwysig sydd i'w dysgu ar gyfer heddiw.
Sut mae'r Ymddiriedolaeth yn Gwneud Gwahaniaeth:
- Addysgu miloedd o fyfyrwyr ledled y Deyrnas Unedig
- Hyfforddi a chefnogi cannoedd o athrawon bob blwyddyn
- Ysgogi cenedlaethau'r dyfodol i siarad yn erbyn anoddefgarwch
- Ysbrydoli unigolion i ystyried eu cyfrifoldebau tuag at eu cymunedau
- Gweithio gyda'r Senedd, Llywodraeth y DU a'r cyfryngau i helpu i ledaenu dealltwriaeth o'r Holocost
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth a'n rhaglenni yma.
Gwersi o Auschwitz Ar-lein
Mae Gwersi o Auschwitz Ar-lein yn brosiect digidol rhyngweithiol. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyfuniad o ddysgu byw a dysgu hunan-gyfeiriedig; byddant yn dysgu am y chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig a gafodd eu llofruddio gan y Natsïaid a'u cydweithwyr; yn datblygu eu gwybodaeth am yr Holocost, yn archwilio hanes gwersyll crynhoi a lladd y Natsïaid yn Auschwitz-Birkenau, ac yn ystyried perthnasedd yr Holocost heddiw.
Mae cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, yr Adran Addysg yn Lloegr a Llywodraeth yr Alban. Mae'r Ymddiriedolaeth yn diolch iddynt am eu cefnogaeth barhaus i'n rhaglenni hanfodol.
Gyda diolch i Ganolfan ac Amgueddfa Genedlaethol yr Holocost, rydym yn falch iawn o gynnwys 'Forever Kitty Hart-Moxon' ym Mhrosiect Gwersi o Auschwitz Ar-lein. Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost a Chanolfan ac Amgueddfa Genedlaethol yr Holocost wedi gweithio'n agos i baratoi tystiolaeth Kitty Hart-Moxon i'w defnyddio yn y prosiect; mae'n fraint rhannu ei phrofiadau a'i dirnadaeth hi.
Diolchiadau
Ar ran yr Ymddiriedolaeth, rydym yn rhoi’n diolch a’n cydnabyddiaeth i’r unigolion a'r sefydliadau a ganlyn am eu cymorth, eu harbenigedd a'u cynnwys gwerthfawr y rhoddwyd caniatâd i'w defnyddio:
Y Rebetsin Ilana Epstein a’r Rabi Daniel Epstein
Yad Vashem, Canolfan Cofio Holocost y Byd
Archifau a Chasgliadau Celf Cofeb ac Amgueddfa Auschwitz-Birkenau
Canolfan Iddewig Auschwitz
Beit Lohamei Hogateot, am eu caniatâd i gynnwys gweithiau celf gan Ella Liebermann-Shiber
Anna Komorowska, aer peintiadau W. Siwek.
Margaretta Haładyn a Nelly Kobyłecką, aer peintiadau M. Koscielniak.