Skip to main content

Polisi Preifatrwydd Gwersi o Auschwitz Ar-lein

Yn effeithiol o: 01/02/2021

1. Rhagymadrodd

Creodd Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost (HET) Brosiect Gwersi o Auschwitz (LFA) Ar-lein i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Holocost i bobl ifanc ac i dynnu sylw'n glir at yr hyn a all ddigwydd os daw rhagfarn a hiliaeth yn dderbyniol. Rydym wedi datblygu'r polisi preifatrwydd hwn i roi gwybod ichi am y data rydym yn ei gasglu, yr hyn a wnawn gyda'ch gwybodaeth, yr hyn a wnawn i'w chadw'n ddiogel, yn ogystal â'r hawliau a'r dewisiadau sydd gennych chi ynglŷn â’ch gwybodaeth bersonol, yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 ac unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy'n dod i rym o bryd i'w gilydd.

Mae Gwersi o Auschwitz Ar-lein yn brofiad dysgu digidol sy'n cynnwys tair sesiwn fyw a gwaith dysgu annibynnol, sydd i gyd ar gael drwy blatfform ar-lein pwrpasol. Ar ben hyn, anogir y cyfranogwyr i gynllunio a chyflawni prosiect Camau Nesaf i rannu'r hyn y maen nhw wedi'i ddysgu.

Rydym yn casglu data personol gan athrawon a myfyrwyr er mwyn cydlynu cyfranogiad. Gall HET ddefnyddio'r wybodaeth hon i roi gwybod i unigolion am gyfleoedd eraill sydd ar gael gan yr Ymddiriedolaeth.

HET yw'r rheolwr ar gyfer yr wybodaeth bersonol a broseswn, oni nodir yn wahanol.

Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (yr ICO) gyda rhif cofrestru Z5371798.

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, ar e-bost neu drwy'r post.

Ein Swyddog Diogelu Data yw:

The DPO Centre Ltd.

50 Liverpool Street

Llundain

EC2M 7PY

Ffôn: 0203 797 1289

Gwefan: www.dpocentre.com

2. Yr wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu

Dim ond gwybodaeth bersonol y gwyddom y byddwn yn ei defnyddio'n ddidwyll ac yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 yr ydyn ni’n ei chasglu. Gall y math o wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu gan y cyfranogwyr, ac y mae’r cyfranogwyr yn ei darparu'n wirfoddol i ni ar y prosiect hwn gynnwys rhai neu’r cyfan o'r canlynol:

  • Enw
  • Gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, a rhif ffôn
  • Gwybodaeth gyswllt brys
  • Manylion ysgol y cyfranogwyr
  • Data iechyd
  • Rhywedd*
  • Data crefydd*
  • Data ethnigrwydd*

*Mae data Rhywedd, Crefydd ac Ethnigrwydd yn wirfoddol i’r cyfranogwyr ei ddarparu os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny. At ddibenion ystadegol demograffig yn unig y mae LFA yn casglu'r data hyn.

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data wedi’i seilio ar y canlynol:

Cydsyniad y cyfranogwyr – er mwyn i’r cyfranogwyr fod yn rhan o Brosiect LFA Ar-lein ac i'w galluogi i gael newyddion marchnata os ydyn nhw wedi optio i mewn

Buddiannau Hanfodol – Anghenion iechyd, diogelwch a lles a phryderon i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn Prosiectau LFA Ar-lein

Ein buddiannau cyfreithlon ni – Helpu i alluogi cyfranogwyr sydd wedi cwblhau Prosiect LFA Ar-lein i ddod yn Llysgennad i HET (ceir rhagor o wybodaeth am hyn ym mholisi preifatrwydd y Llysgenhadon ar brif wefan HET: www.het.org.uk)

3. Sut rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth y cyfranogwyr

I helpu i gydlynu'r prosiect gydag ysgolion, myfyrwyr, athrawon, rhieni a gwarcheidwaid sy'n cymryd rhan

I helpu gyda’r ymgysylltu ar gyfer rhaglenni HET yn y dyfodol (gan gynnwys ein rhaglen Llysgenhadon)

I gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch a rheoliadau diogelu plant

I gynnal ein cronfeydd data sy'n dal data personol cyfranogwyr

I gynnal sesiynau byw LFA (pan gaiff sesiynau eu recordio at ddibenion diogelwch a monitro, dim ond cyflwynwyr HET neu eu sgriniau fydd yn weladwy)

4. Y rhai y gallen ni rannu gwybodaeth y cyfranogwyr gyda nhw

Fe allen ni rannu data personol cyfranogwyr gyda sefydliadau eraill o dan yr amgylchiadau canlynol:

Adroddiadau ar ganlyniadau cyrsiau a chyllid gyda'r Adran Addysg (DfE) yn Lloegr

Mail Chimp sy'n helpu i hwyluso’n negeseuon e-bost a’n e-gylchlythyrau marchnata, os yw’r cyfranogwyr wedi optio i mewn

Alban House sy'n helpu i ddosbarthu’n deunyddiau addysgol copi caled os yw’r cyfranogwyr wedi optio i mewn

5. Hawliau’r cyfranogwyr dros eu gwybodaeth

5.1.1  Yr hawl i gael gwybod am sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol;

Mae gan y cyfranogwyr hawl i gael gwybod am sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio’u data personol. Rydym yn sicrhau ein bod yn gwneud hyn drwy'n polisïau diogelu data mewnol a thrwy ein polisi gwefan allanol. Caiff y rhain eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gywir ac yn adlewyrchu’n gweithgarwch prosesu data.

5.1.2  Hawl i Gael Mynediad At Wybodaeth Bersonol y Cyfranogwyr

Mae gan y cyfranogwyr hawl i gael mynediad at yr wybodaeth bersonol sydd gennym amdanyn nhw o dan unrhyw amgylchiadau, drwy wneud cais. Mae hyn yn cael ei alw weithiau yn 'Cais am fynediad at ddata gan y testun’. Os cytunwn ei bod yn ofynnol inni ddarparu gwybodaeth bersonol i gyfranogwyr (neu rywun arall ar eu rhan), byddwn yn ei darparu i'r cyfranogwr neu iddyn nhw yn rhad ac am ddim gan anelu at wneud hynny o fewn 30 diwrnod ar ôl cadarnhau pwy yw’r cyfranogwr.

Byddem yn gofyn am brawf adnabod a digon o wybodaeth am ymwneud y cyfranogwr â ni er mwyn inni ddod o hyd i wybodaeth bersonol y cyfranogwr.

Os hoffai cyfranogwyr arfer yr hawl hon, yna dylen nhw gysylltu â ni fel y nodir isod.

5.1.3  Hawl i Gywiro Gwybodaeth Bersonol Cyfranogwyr

Os oes unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym am gyfranogwr yn anghywir, yn anghyflawn neu'n hen, caiff y cyfranogwr ofyn inni ei chywiro.

Os hoffai cyfranogwr arfer yr hawl hon, yna dylen nhw gysylltu â ni fel y nodir isod.

5.1.4  Hawl i Stopio neu Gyfyngu’n Gwaith i Brosesu Data Cyfranogwyr

Mae gan gyfranogwyr hawl i wrthwynebu’n gwaith ni i brosesu eu gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol, i ddileu eu gwybodaeth os ydym yn ei chadw'n rhy hir neu i gyfyngu ar brosesu’r wybodaeth honno dan rai amgylchiadau.

Os hoffai cyfranogwyr arfer yr hawl hon, yna dylen nhw gysylltu â ni fel y nodir isod.

5.1.5  Hawl i Ddileu

Mae gan gyfranogwyr hawl i ddileu data personol. Mae hyn hefyd yn cael ei alw’n 'hawl i gael eich anghofio'. Nid yw'r hawl yn absoliwt a dim ond dan rai amgylchiadau y mae'n gymwys.

Os hoffai cyfranogwyr arfer yr hawl hon, yna dylen nhw gysylltu â ni fel y nodir isod.

5.1.6    I gael rhagor o wybodaeth am hawliau preifatrwydd y cyfranogwyr

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy’n rheoleiddio materion diogelu data a phreifatrwydd yn y Deyrnas Unedig. Maent yn sicrhau bod llawer o wybodaeth ar gael i ddefnyddwyr ar eu gwefan ac yn sicrhau bod manylion cofrestredig yr holl reolwyr data fel ni ar gael i'r cyhoedd. Gall cyfranogwyr eu cyrchu yma: https://ico.org.uk/for-the-public.

Caiff cyfranogwr wneud cwyn i’r ICO unrhyw bryd am y modd rydym yn defnyddio’u gwybodaeth. Er hynny, gobeithio y byddai cyfranogwr yn ystyried codi unrhyw fater neu gŵyn a allai fod ganddo gyda ni yn gyntaf. Mae boddhad ein cyfranogwyr yn eithriadol o bwysig inni, a byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddatrys unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw.

6. Pa mor hir rydyn ni’n cadw gwybodaeth

Rydym yn cadw cofnod o wybodaeth bersonol cyfranogwyr er mwyn darparu gwasanaeth cyson o ansawdd uchel iddyn nhw. Fyddwn ni byth yn cadw gwybodaeth bersonol cyfranogwr am fwy na thair blynedd ac ar ôl hynny bydd enwau'n cael eu dileu’n awtomatig o'n systemau, fel na fydd modd i unigolyn gael ei adnabod mwyach. Os bydd unigolyn yn dirymu ei gydsyniad i fod ar y prosiect ar-lein ac yn gofyn am ddileu'r data byddwn yn siŵr o weithredu ar hyn yn dilyn ei gais hefyd.

7. Diogelwch

Mae diogelwch data yn bwysig iawn i HET ac er mwyn diogelu data’r cyfranogwyr rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheoli addas ar waith i ddiogelu a gwarchod data a gasglwyd oddi wrth gyfranogwyr.  Rydym yn storio data’r cyfranogwyr ar ein gweinyddion diogel sydd wedi'u lleoli yn y Deyrnas Unedig.

Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch i ddiogelu gwybodaeth cyfranogwyr sy’n cynnwys:

  • Cyfyngu mynediad i’n hadeiladau i’r rhai rydyn ni wedi penderfynu bod ganddyn nhw hawl i fod yno;
  • Rhoi rheolaethau ar waith ynglŷn â chyrchu’n technoleg gwybodaeth;
  • Rydym yn defnyddio gweithdrefnau a mesurau technegol priodol (gan gynnwys technegau llym ar gyfer amgryptio, tynnu enwau ac archifo) i ddiogelu gwybodaeth y cyfranogwyr ar draws ein holl systemau cyfrifiadur, cronfeydd data, rhwydweithiau, gwefannau;
  • Rydym wedi ymuno â’r cytundeb prosesu data byd-eang safonol gyda Zoom er mwyn sicrhau bod gwybodaeth breifat yn cael ei diogelu

8. Cyber Essentials

Yn ychwanegol at y mesurau diogelwch uchod, mae HET hefyd wedi cyflawni ardystiad Cyber Essentials sy'n cael ei adolygu'n flynyddol. Mae copïau o'n hardystiad ar gael os gofynnir amdanynt drwy gysylltu â ni isod.

9. Newidiadau yn ein Polisi Preifatrwydd

Gallwn newid y Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd (er enghraifft, os bydd y gyfraith yn newid). Rydym yn argymell y dylai cyfranogwyr wirio'r polisi hwn yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

10. Cwcis

Gweler ein polisi Cwcis ar wahân i weld sut rydym yn defnyddio Cwcis ar ein gwefan ac i newid eich cydsyniad.

11. Sut i gysylltu â ni

Os hoffai cyfranogwr arfer un o'i hawliau fel y nodir uchod, neu os oes gan gyfranogwr gwestiwn neu gŵyn am y polisi hwn, sut mae ei wybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, dylai gysylltu â ni drwy un o'r dulliau canlynol:

Ar e-bost: info@lfaproject.org.uk

Dros y ffôn: +44 (0)20 7222 4761

Drwy’r post: BCM Box 7892, Llundain, WC1N 3XX

 

Telerau ac Amodau Gwersi o Auschwitz Ar-lein

Mae'r telerau a’r amodau a ganlyn yn rheoli'r holl ddefnydd ar blatfform Gwersi o Auschwitz Ar-lein, gan gynnwys defnyddio neu wylio unrhyw gynnwys, gwasanaethau a chynhyrchion sydd ar gael ar y platfform neu drwyddo, gan ymwelwyr a chyfranogwyr y platfform, heb eu cofrestru ac wedi'u cofrestru. Drwy gyrchu platfform LFA Ar-lein, rydych yn cytuno i bob pwynt isod.

Mae eich defnydd o’r wefan hon yn gyfystyr â derbyn y Telerau a’r Amodau hyn ar ddyddiad eich defnydd cyntaf ar y wefan. Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn cadw'r hawl i newid y Telerau a’r Amodau hyn unrhyw bryd drwy bostio newidiadau ar-lein. Mae eich defnydd parhaus ar y wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu postio yn dangos eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y'i haddaswyd.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n torri hawliau trydydd parti, nac yn cyfyngu neu'n llesteirio defnydd a mwynhad unrhyw drydydd parti ar y wefan.

Darperir y wefan hon a'r wybodaeth, yr enwau, y delweddau, y lluniau, y logos sy'n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost neu sy'n gysylltiedig â hi "fel y maent" heb wneud unrhyw sylw na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed yn bendant ynteu'n ymhlyg. Ni fydd Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost mewn unrhyw achos yn atebol am unrhyw iawndal gan gynnwys, heb gyfyngiad, iawndal anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw iawndal sy'n deillio o gwbl o ddefnyddio’r wefan neu mewn cysylltiad â'i defnyddio neu golli defnydd o'r wefan, boed hynny mewn contract neu drwy esgeulustod.

Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn ceisio sicrhau bod y wefan yn gyfoes ac yn gweithio'n dda. Er hynny, nid yw'n gwarantu y bydd y swyddogaethau a'r deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn ddi-dor nac yn rhydd rhag gwallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei darparu yn rhydd rhag feirysau neu chwilod neu eu bod yn cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Mae unrhyw ohebiaeth neu ddeunydd yr ydych yn eu trosglwyddo i unrhyw ran gyhoeddus o'r wefan, neu'n eu postio arni, gan gynnwys unrhyw ddata, cwestiynau, sylwadau, awgrymiadau, neu'r tebyg, yn wybodaeth nad yw'n gyfrinachol ac sy’n ddiberchnogaeth a byddant yn cael eu trin felly.

Gwaherddir defnyddio neu gyhoeddi’n fasnachol bob eitem neu unrhyw eitem a ddangosir heb awdurdodiad ymlaen llaw gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Ni ddylid dehongli unrhyw beth a gynhwysir yma fel pe bai’n rhoi unrhyw drwydded gan Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i ddefnyddio unrhyw eitem a ddangosir. Caniateir i ddogfennau gael eu copïo at ddibenion addysgol neu bersonol yn unig, ar yr amod bod dynodiadau’r hawlfraint a’r ffynhonnell hefyd yn cael eu copïo, na wneir unrhyw addasiadau a bod y ddogfen yn cael ei chopïo’n gyfan gwbl. Er hynny, mae rhai dogfennau a lluniau wedi'u cyhoeddi ar y wefan hon gyda chaniatâd perchnogion yr hawlfraint berthnasol (heblaw Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost). Mae'r holl hawliau wedi'u cadw ar y dogfennau hyn a rhaid gofyn am ganiatâd perchnogion yr hawlfraint i’w copïo (nodir y ffynonellau yn y dogfennau/ffotograffau hyn).

Nid yw Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys, arferion preifatrwydd, cywirdeb na dibynadwyedd unrhyw wefan a gyrchir drwy ddolen o'n gwefan. Mae gwefannau eraill yr ydym yn cysylltu â nhw yn perthyn i drydydd parti ac yn cael eu gweithredu ganddynt ac nid oes gennyn ninnau unrhyw reolaeth drostynt. Nid yw'r ffaith ein bod yn cynnwys dolenni i wefannau eraill yn golygu bod Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn cymeradwyo nac yn ategu unrhyw wefan trydydd parti arall na chynnwys y wefan honno. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw osodiadau, gwybodaeth, cynhyrchion na gwasanaethau sy'n cael eu cyhoeddi ar unrhyw wefannau sy'n perthyn i drydydd parti neu sy'n hygyrch drwyddynt.

Mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau yn dod o dan awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

Os nad ydych yn derbyn y Telerau a’r Amodau hyn yn llawn, rhaid ichi roi’r gorau i ddefnyddio'r wefan hon ar unwaith.

Diogelu Data

Mae Prosiect Gwersi o Auschwitz ac LFA Ar-lein yn cael eu rhoi ar waith gyda chyllid hael yr Adran Addysg yn Lloegr.  Gellir rhannu data monitro a data cydraddoldeb gyda'n cyllidwyr yn unol â'r GDPR a Pholisïau Diogelu Data. Gweler ein Polisi Preifatrwydd LFA Ar-lein uchod i gael rhagor o fanylion am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio’ch data

Ymddygiad ac Etiquette Ar-lein

Os bydd cyfranogwyr, ym marn staff HET neu ffigurau awdurdod eraill yn ymddwyn mewn modd a allai beryglu eraill neu beri gofid i eraill, amharchu/achosi tramgwydd i eraill, gellir dod â'u cyfranogiad yn y prosiect i ben unrhyw bryd.

Rydym yn cadw'r hawl i anghymhwyso unrhyw gyfranogwr o'r prosiect unrhyw bryd.

Mae Gwersi o Auschwitz Ar-lein yn digwydd mewn amgylchedd ar-lein. Ni oddefir aflonyddu na bwlïo, nac anghwrteisi i siaradwyr, staff, gwesteion, neu gyfranogwyr eraill. Bydd unrhyw gyfranogwr sy'n ymddwyn yn y modd hwn yn cael ei dynnu oddi ar y cwrs.

Bydd y seminarau ar-lein yn cael eu cynnal ar lwyfan Zoom. Rydyn ni’n disgwyl i bawb sy'n cymryd rhan:

●            defnyddio’u henwau go iawn

●            aros ar 'ddistaw’ pan nad ydyn nhw'n cyfrannu'n weithredol at drafodaeth

●            gwisgo dillad priodol

●            eistedd mewn amgylchedd tawel, sy'n briodol ar gyfer gwrando, meddwl a thrafod pynciau ymestynnol

●            bod yn gynhwysol, yn barchus ac yn gwrtais bob amser

●            rhoi amser a lle i'r holl gyfranogwyr rannu eu meddyliau

●            peidio â thynnu unrhyw luniau, fideos na sgrinluniau o'r sesiwn

 

Diogelwch a defnyddio'r platfform ar-lein

●          Mae'r adran Realiti Rhithwir (VR) o Wersi o Auschwitz Ar-lein yn gofyn am gael defnyddio dyfeisiau electronig personol neu ddyfeisiau electronig yr ysgol neu'r coleg yn ddiogel. Nid yw HET yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am anaf neu niwed i chi na'ch eiddo tra byddwch yn ymwneud â'r cynnwys hwn nac unrhyw gynnwys arall ar y cwrs.

●          Dim ond defnyddwyr cofrestredig Gwersi o Auschwitz Ar-lein sy’n cael gweld a defnyddio’r cynnwys ar y platfform.

●          Mae cofrestru yn gysylltiedig â defnyddiwr unigol ac ni ddylid rhannu nac ailddosbarthu manylion mewngofnodi at unrhyw ddiben.

●          Drwy uwchlwytho cynnwys ysgrifenedig i lwyfan Gwersi o Auschwitz Ar-lein, mae’r defnyddwyr yn cytuno y caiff Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost arddangos ac ailddefnyddio'r cynnwys hwnnw mewn deunyddiau marchnata neu ddeunyddiau eraill heb iawndal neu hysbysiad.

●          Gellir recordio sesiynau ar-lein at ddibenion diogelwch a monitro. Dim ond cyflwynwyr HET neu eu sgriniau fydd yn cael eu recordio.

Cefnogir platfform Gwersi o Auschwitz Ar-lein gan yr Adran Addysg yn Lloegr. Ni chaniateir defnyddio’r wefan a’i chynnwys, eu newid na’u hail-ddosbarthu heb ganiatâd penodol yr holl randdeiliaid.